R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru? OAQ(4)2149(FM)
2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran sefydlu canolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(4)2137(FM)
3. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer ymchwil a datblygu yng Nghymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)2151(FM)
4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol? OAQ(4)2139(FM)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Graham Donaldson? OAQ(4)2144(FM)W
6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2142(FM)
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl caeau chwarae o ran bodloni amcanion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lles? OAQ(4)2148(FM)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bryderon a godwyd ynghylch ysgol reolaeth Prifysgol Abertawe? OAQ(4)2138(FM)
9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gryfder y sector TGCh yng Nghymru? OAQ(4)2140(FM)
10. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ardaloedd Dechrau'n Deg yng Nghymru? OAQ(4)2141(FM)
11. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sylwadau Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru nad oedd penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn bodloni'r diffiniad o benderfyniad brys? OAQ(4)2147(FM)W
12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwella de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2143(FM)
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau y bydd pedwaredd raglen ddeddfwriaethol arfaethedig y Cynulliad yn cael ei chwblhau erbyn 2016? OAQ(4)2146(FM)W
14. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar dlodi yng Nghymru? OAQ(4)2145(FM)
15. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Prif Weinidog adrodd ar drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi? OAQ(4)2150(FM)W